Sut ydw i’n archebu presgripsiwn?
Cofiwch - Mae angen i’ch meddygfa alluogi’r cyfleuster hwn cyn y gallwch ei ddefnyddio.
I wneud cais am bresgripsiwn amlroddadwy:
- Mewngofnodwch i www.fyiechydarlein-inps2.cymru.nhs.uk yn y ffordd arferol.
- Dewiswch Fy Mhresgripsiynau.
- O dan Gwneud Cais am Bresgripsiynau Newydd, ticiwch y meddyginiaethau rydych chi eisiau eu harchebu:
- Ychwanegwch neges testun rhad ac am ddim, os oes angen, yna cliciwch Gwneud cais.
- Bydd y sgrin Cadarnhau eich Cais yn ymddangos.
- Gwiriwch yr eitemau rydych chi wedi’u harchebu ac ychwanegwch neges, os oes angen, (uchafswm o 1,000 nod), ac os caiff ei alluogi gan eich meddygfa.Sylwer – Efallai y bydd negeseuon sy’n cael eu hychwanegu at y cais yn cael eu gweld gan staff anghlinigol.
- Cliciwch Cadarnhau i anfon eich cais i’ch meddygfa.
- Ar ôl ei gyflwyno’n llwyddiannus, cliciwch Allgofnodi i adael Fy Iechyd Ar-lein.
Sylwer – Bydd eich presgripsiwn yn cael ei brosesu gan eich meddygfa a dylech ei gasglu yn y ffordd arferol.
Cysylltwch â’ch meddygfa os na allwch archebu’r presgripsiwn amlroddadwy sydd ei angen arnoch.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.